Cynllun Gwaith y Bwrdd 2018-19

Mae ymdeimlad cryf o barhad yn bodoli rhwng cynllun gwaith y Bwrdd Cenedlaethol ar gyfer 2018-19 a’i raglen waith flaenorol – a oedd yn rhoi pwys mawr ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 ac ar sicrhau’r ddealltwriaeth orau ymhlith aelodau’r Bwrdd Cenedlaethol. Mae gan y cynllun gwaith hwn ffydd mewn syniadau llawn gobaith a dulliau gweithredu newydd. Mae’n edrych i’r hirdymor ac mae’n pwysleisio pwysigrwydd ffyrdd o gyfathrebu er mwyn cyflawni’r ddau nod canlynol:

  • atal plant ac oedolion rhag cyrraedd sefyllfa lle maent mewn perygl o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso a’u niweidio, ac
  • amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu’u niweidio mewn ffyrdd eraill.

Mae llawer o bobl yn ymwneud yn helaeth iawn â’r ymdrechion cyffredin i atal niwed ac i amddiffyn plant ac oedolion rhagddo, ac mae’r Bwrdd Cenedlaethol yn rhagweld y bydd ei gynllun gwaith yn ategu gwaith y bobl hynny.

Mae Cynllun Gwaith y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol ar gyfer 2018/19 yn cynnwys pedair thema:

  • A.   Hanfodion diogelu
  • B.   Gwrando ac ymgysylltu
  • C.   Dysgu ynghylch diogelu
  • Ch. Agweddau ymylol ar ddiogelu

Margaret Flynn, Keith Towler, Simon Burch, Ruth Henke, Jan Pickles, Rachel Shaw

A. Hanfodion diogelu
Themâu a rhesymegRhychwant a dulliau gweithreduCanlyniadau
1. Datblygu Gwaith dysgu o brofiad lleol – adnodd sy’n rhoi sylw i achosion ac ymchwiliadau o bwys yng Nghymru

Gall y dasg o ddysgu o achosion troseddol ac ymchwiliadau lethu ymarferwyr sy’n ymwneud â diogelu plant ac oedolion. Mae’r Bwrdd Cenedlaethol yn awyddus i sicrhau bod y gwersi sydd i’w dysgu o achosion o bwys yng Nghymru yn hysbys i bawb.
Mae’r Bwrdd Cenedlaethol wedi nodi’r achosion a’r ymchwiliadau allweddol a gafodd lawer o sylw yn y cyfryngau. Maent yn cynnwys sylwadau crynhoi barnwyr mewn achosion troseddol, a’r sylw a gafwyd yn y cyfryngau.
Bydd yn ystyried sut y gellid cynnal adnodd o’r fath a’i ddatblygu yn y dyfodol.
Adnodd a ddatblygir gan y Bwrdd Cenedlaethol, sy’n rhoi sylw i achosion ac ymchwiliadau o bwys yng Nghymru ac sy’n mynd i’r afael â’r cwestiwn: pe bai’r unigolion hyn yn dechrau ar eu gyrfa fel troseddwyr yn awr, beth fyddai’n wahanol?
2. Dod i ddeall Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Mae mynychu cyfarfodydd Byrddau Diogelu Rhanbarthol a chrynhoi eu hadroddiadau blynyddol wedi dangos bod angen ategu’r wybodaeth am ddiogelu sy’n ymddangos ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru, er mwyn gwella dealltwriaeth o ddeddfwriaeth ym maes diogelu.
Mae’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol wedi comisiynu “canllaw cryno” i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 a deddfwriaeth gysylltiedig.
Canllaw syml i ymarferwyr, sy’n egluro dyletswyddau statudol o ran diogelu dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
3. Darparu cymorth a chyngor i fyrddau diogelu

Dyma un o brif ddyletswyddau’r Bwrdd Cenedlaethol.
Mae pum aelod o’r Bwrdd Cenedlaethol yn mynychu cyfarfodydd y Byrddau Diogelu Rhanbarthol ac yn cymryd rhan ynddynt. Mae hynny’n sicrhau bod gan yr aelodau wybodaeth sylfaenol am brofiadau’r Byrddau Rhanbarthol a’u bod yn gyfarwydd â’u rhaglenni gwaith.

Mae aelodau’r Bwrdd yn cyfrannu at ddatblygu safonau diogelu ym maes gofal cymdeithasol a nyrsio.

Mae’r Bwrdd Cenedlaethol yn cyfarfod bob mis ac mae gwaith aelodau’r Bwrdd mewn rhannau eraill o’r DU yn chwarae rhan bwysig yn y modd y mae’n asesu cyfleoedd a chyfyngiadau ac yn mynd i wraidd y gwersi sydd i’w dysgu.
Caiff enghreifftiau o’r cymorth a’r cyngor a ddarperir eu hadlewyrchu mewn cyfarfodydd â Gweinidogion a Chadeiryddion y Byrddau Rhanbarthol ac yn Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Cenedlaethol.
4. Adrodd ynghylch digonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion, a gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch sut y gellid eu gwella

Mae’r rhain yn ddwy o brif ddyletswyddau’r Bwrdd Cenedlaethol.
Mae rhannu’r profiad o gymryd rhan mewn cyfarfodydd Byrddau Rhanbarthol yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth ynghylch diogelu. Mae aelodau’r Bwrdd Cenedlaethol yn ymwybodol o raddau’r cysondeb rhwng cynlluniau a rhaglenni gwaith y Byrddau Rhanbarthol a rhwng disgwyliadau a pherfformiad.

Mae’r Bwrdd Cenedlaethol yn cyfarfod â’r Gweinidog unwaith bob chwarter.
Caiff enghreifftiau o waith diogelu effeithiol ar lefel “ficro” a “macro” eu hadlewyrchu yng nghyfarfodydd y Bwrdd Cenedlaethol â Chadeiryddion Byrddau Rhanbarthol, ei Adroddiad Blynyddol a’i weithgareddau ar gyfryngau cymdeithasol.
5. Ymateb i ymholiadau/problemau, ymgysylltu â rhanddeiliaidMae’r Bwrdd yn cael ymholiadau o ganlyniad i’w waith. Mae cylch gorchwyl y Bwrdd yn cynnwys darparu cyngor a chymorth.Bydd yr Adroddiad Blynyddol yn crynhoi’r gwaith hwn.
B. Gwrando ac ymgysylltu
6. Datblygu ymgyrch cenedlaethol i godi ymwybyddiaeth o ddiogelu

Un o swyddogaethau’r Byrddau Diogelu yw “codi ymwybyddiaeth ledled ardal y Bwrdd Diogelu o amcanion y Bwrdd a sut y gallai’r rheini gael eu cyflawni.” At hynny, mae’n ofynnol i’r Bwrdd Cenedlaethol wella ei ddealltwriaeth ac ehangu ei brofiad o ddiogelu ac amddiffyn yng Nghymru.
Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn gwahodd Gweinidogion, Llywodraeth Cymru, y Byrddau Diogelu Rhanbarthol, darparwyr tai, mudiadau’r trydydd sector, fforymau diogelu iau, fforymau ieuenctid, mudiadau hunangymorth a grwpiau gofalwyr i nodi, rhannu ac atgyfnerthu negeseuon cadarnhaol ynghylch diogelu.

Bob mis mae’r Bwrdd Cenedlaethol yn paratoi neges ynghylch diogelu sydd i’w rhannu ag eraill.

Bydd gwybodaeth am themâu sy’n dod i’r amlwg o safbwynt codi ymwybyddiaeth yn ardaloedd y Byrddau Rhanbarthol ac ar eu traws yn cael ei rhoi ar wefan y Bwrdd Cenedlaethol.

Bydd y wasg genedlaethol a lleol yn cael ei gwahodd, o leiaf bedair gwaith yn ystod 2018-19, i dynnu sylw at sefyllfaoedd a oedd yn cynnwys y cyhoedd ac a arweiniodd at ganlyniadau a achubodd fywydau. Bydd yr achosion hynny’n rhoi sylw i’r hyn y gall aelodau’r cyhoedd ei wneud os ydynt yn credu y gallai unigolion fod mewn perygl.
Trafodaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ynghylch amddiffyn pobl, teimlo’n ddiogel a chadw’n ddiogel.

Rhwydweithiau o unigolion a sefydliadau â diddordeb, sy’n myfyrio ynghylch digwyddiadau y cafwyd adroddiadau amdanynt yn lleol ac yn genedlaethol.

Ffurf a chynnwys adroddiadau newyddion lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn gefnogol i fentrau ac ymyriadau diogelu.
7. Ysbrydoli pobl i godi llais

Mae gwrando ar bobl yn hanfodol o safbwynt cyfathrebu ac o safbwynt bod yn ddiogel a theimlo’n ddiogel. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau – y mae pob un ohonynt yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed.
Mae’r Bwrdd Cenedlaethol yn hybu rhyngweithio â phobl dros gyfnod – yn hytrach na chael gwybodaeth ganddynt bob hyn a hyn. Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn hyrwyddo enghreifftiau go iawn o ymarfer effeithiol a dychmygus o safbwynt
gwrando a meithrin ymddiriedaeth
gweithredu ar yr hyn a glywir
datblygu cyfathrebu dwy ffordd, heb ddefnyddio jargon
cynnwys eiriolwyr
ymgysylltu â theuluoedd.

Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn ystyried effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol “ysbrydoli pobl i godi llais”.
Enghreifftiau’n gysylltiedig â “diben” a “modd”, sy’n deillio o (i) profiadau unigolion o godi eu llais a chael rhywun i wrando arnynt (ii) y pynciau sy’n ennyn diddordeb y cyfryngau. Bydd yr enghreifftiau yn mynd y tu hwnt i rannu gwybodaeth.
8. Noddi gwobrau diogelu

Y diben yw cydnabod a gwobrwyo ymarfer gwerthfawr yng Nghymru a rhoi sylw iddo’n genedlaethol, hynny yw gwaith unigolion, timau a sefydliadau sydd â syniadau newydd ynghylch darparu gwasanaethau.
Mae’r Bwrdd wedi noddi dwy wobr – (i) ar gyfer dulliau effeithiol o ddiogelu, yng Ngwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru, a (ii) i gydnabod rhagoriaeth mewn ymarfer nyrsio yng nghyswllt diogelu, yn y Coleg Nyrsio Brenhinol.

Bydd y Bwrdd yn archwilio’r posibilrwydd o noddi gwobrau gyda chyrff proffesiynol eraill ac yn chwilio am noddwyr eraill ar gyfer gwobrau Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru ar ôl 2018.
Bydd y gwobrau hyn yn codi proffil llwyddiannau calonogol ym maes diogelu ac yn clodfori’r unigolion sy’n gysylltiedig â nhw.
9. Digwyddiadau i arweinwyr

Cadarnhaodd uwchgynhadledd arweinyddiaeth 2017 fod arweinyddiaeth ym maes diogelu wedi’i dosbarthu ar draws unigolion a sefydliadau ar bob lefel.
Bydd Gweinidogion ac arweinwyr eraill megis Prif Weithredwr GIG Cymru, y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, y Comisiynydd Pobl Hŷn, y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, y Comisiynydd Plant, yr Archwilydd Cyffredinol a phrif weithredwyr mudiadau’r trydydd sector a sefydliadau’r sector preifat, ymhlith eraill, yn cael eu gwahodd i gyfrannu eu syniadau a’u dadansoddiadau ynghylch diogelu mewn digwyddiadau i arweinwyr.Cyfarfodydd â Chadeiryddion, aelodau’r Byrddau Rhanbarthol a phobl eraill er mwyn (i) cael trafodaethau gonest ynghylch cyflwr diogelu yng Nghymru (ii) asesu’r cyfleoedd a’r cyfyngiadau yng nghyswllt strategaethau rhanbarthol ar gyfer sicrhau gwaith diogelu gwell a (iii) sicrhau neu ddatblygu ymarfer diogelu sy’n fwy effeithiol ac effeithlon.
C. Dysgu ynghylch diogelu
10. Tynnu themâu o adolygiadau ymarfer plant

Mae adolygiadau ymarfer plant (ac adolygiadau ymarfer oedolion) ar gael am gyfnod penodol ar wefannau’r Byrddau Rhanbarthol. Mae hynny’n golygu ei bod yn anodd gweld y cysylltiadau rhyngddynt a thynnu gwersi sydd i’w dysgu ohonynt, sy’n berthnasol i ymarfer diogelu.
Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn comisiynu trosolwg o adolygiadau ymarfer plant ers mis Ebrill 2016. Bydd yn ategu’r adolygiad thematig a gynhaliwyd yng Nghymru o adolygiadau ymarfer oedolion, achosion o ddynladdiad domestig ac achosion o ddynladdiad gan bobl â phroblemau iechyd meddwl.

Ar ôl cytuno ar y themâu a’r gwersi sydd i’w dysgu, caiff y Byrddau Diogelu Rhanbarthol eu gwahodd i roi cynnig ar wahanol ffyrdd o rannu’r hyn a ddysgwyd.

Bydd ymgyrch cyfryngau cymdeithasol (gweler 6 uchod) yn ategu’r gweithgareddau rhanbarthol i rannu’r gwersi a ddysgwyd.
Bydd yr holl adolygiadau ymarfer plant/oedolion a gyhoeddwyd ers mis Ebrill 2016 yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol.

Caiff mannau storio amgen eraill eu nodi.

Caiff y themâu cyffredin eu nodi o safbwynt lleoliadau a goblygiadau sy’n berthnasol i ymarferwyr diogelu, gweithwyr proffesiynol eraill a’r cyhoedd.

Syniadau ynghylch ffyrdd addawol o ddysgu o adolygiadau, sy’n sefydlu syniadau ar gyfer gwelliannau.
11. Cyfrannu at ddigwyddiadau diogelu

Mae sicrhau newid egwyddorol yn wleidyddol. Mae’r Bwrdd Cenedlaethol yn gwybod mor bwysig yw creu cynghreiriau a rhwydweithiau o arweinwyr – sy’n cynnwys pobl sy’n defnyddio gwasanaethau. Mae gwerth mewn cyfrannu at ddigwyddiadau sydd wedi’u cynllunio a’u cofnodi, y caiff y gwaith dysgu sy’n deillio ohonynt ei rannu ag eraill.



Cynnal uwchgynhadledd ynghylch mesur effaith gwaith diogelu

Mae asesu effeithiolrwydd gwaith diogelu yn dasg gymhleth. Mae atgyfeiriadau at drefniadau diogelu o ffynonellau penodol, a’r hyn sy’n digwydd i atgyfeiriadau, yn gyfarwydd ond prin iawn yw’r gwaith mesur a wneir mewn cysylltiad â nhw – beth y maent yn ei olygu?
Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, y Byrddau Rhanbarthol ac eraill i archwilio meysydd o ddiddordeb, gyda’r bwriad o adlewyrchu meysydd sydd o ddiddordeb o safbwynt diogelu’n rhanbarthol, er enghraifft paratoi adroddiadau blynyddol; y trefniadau diogelu rhag colli rhyddid; a’r defnydd o ddulliau atal a neilltuo (gweler 13 isod).

Bu uwchgynhadledd y Bwrdd Cenedlaethol ‘Gwneud i ddiogelu gyfrif’ yn ystyried y ffynonellau gwybodaeth a allai ganiatáu i’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol a’r Bwrdd Cenedlaethol adrodd ynghylch digonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau diogelu. Cafodd Byrddau Rhanbarthol eu gwahodd i roi prawf ar syniadau newydd, eu haddasu a’u datblygu.
Digwyddiadau wedi’u cynllunio a’u cynnal gyda’r Byrddau Rhanbarthol.

Dogfennau gwybodaeth o’r digwyddiadau yn cael eu rhannu.

Gwaith parhaus y Bwrdd Cenedlaethol gyda Chadeiryddion y Byrddau Rhanbarthol a swyddogion Llywodraeth Cymru i gytuno ar set o ddata a fydd yn cynnig ffordd well o ddangos effeithiolrwydd gwaith diogelu.
12. Archwilio gyda Phrifysgol Caerdydd, prifysgolion eraill Cymru, Nesta (Y Lab – Labordy Arloesi Cymru ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus) a Safelives ddatblygiadau newydd posibl sy’n ymwneud ag ymarfer a “gwybodaeth” ym maes diogelu.Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn meithrin cynghreiriau ar gyfer cynnydd ym maes diogelu. Bydd y rhain yn cynnwys partneriaethau a datblygiadau newydd – gan gomisiynu gwaith dysgu peirianyddol efallai, hynny yw defnyddio systemau cyfrifiadurol sy’n gallu gwneud penderfyniadau ar sail data trwy edrych ar batrymau a thueddiadau, a dysgu ohonynt. Syniadau addawol ar gyfer prosesau ac ymyriadau diogelu i’w rhannu â’r Byrddau Rhanbarthol.
Ch. Agweddau ymylol ar ddiogelu
13. Codi cwestiynau ynghylch atal a neilltuo mewn gofal

Ar ôl trafod â Llywodraeth Cymru y risgiau sy’n gysylltiedig â defnyddio dulliau atal a neilltuo mewn gofal ac mewn lleoliadau diogel ar gyfer plant ac oedolion, bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn nodi partneriaid sydd â diddordeb mewn lleihau’r defnydd a wneir o’r arferion hyn.
Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn gwahodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i rannu’r hyn a ddysgwyd ganddynt. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn datblygu fframwaith ar hawliau dynol ac atal, a fydd yn berthnasol mewn ystod o leoliadau. Rhagwelir mai’r fframwaith hwn fydd y meincnod cyfreithiol ar gyfer rheoleiddio’r defnydd a wneir o ddulliau atal yng Nghymru a Lloegr.

Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn ceisio cydweithredu â phroses y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a nodi data sy’n ymwneud â’r defnydd a wneir o ddulliau atal a neilltuo mewn gwasanaethau a ddarperir yng Nghymru.

Ymgysylltu â phobl y defnyddiwyd dulliau atal a neilltuo wrth ymdrin â nhw mewn gwasanaethau yng Nghymru.
Adroddiad ynghylch yr hyn a wyddys am y defnydd a wneir o’r arferion hyn yng Nghymru a phrofiad pobl ohonynt, gan ystyried sut y gellir lleihau’r defnydd a wneir o’r dulliau hyn.