Dathlu diogelu yng Nghymru 

Page Icon

Anaml y gwelwch chi’r gair ‘dathlu’ a’r gair ‘diogelu’ gyda’i gilydd yn yr un frawddeg. Wrth i unigolion a sefydliadau ganolbwyntio ar amddiffyn pobl sy’n profi camdriniaeth, ac wrth i’r cyfryngau roi sylw i fethiannau ar hyn o bryd ac yn y gorffennol, mae’n hawdd anghofio bod “diogelu” yn air cadarnhaol. Bob dydd mae bywydau pobl yn cael eu newid er gwell gan unigolion a grwpiau o bobl sy’n cydweithio â’i gilydd i greu amgylcheddau diogel ac i ymateb yn effeithiol i bobl sy’n profi camdriniaeth neu esgeulustod.

Efallai eu bod yn weithwyr proffesiynol megis gweithwyr cymdeithasol, athrawon, swyddogion heddlu neu nyrsys, sy’n ymwneud â gwaith diogelu’n ddyddiol. Efallai eu bod yn staff ac yn wirfoddolwyr sy’n effro i broblemau diogelu ac sy’n creu amgylcheddau diogel mewn clybiau chwaraeon a grwpiau gwirfoddol eraill. Neu efallai eu bod yn aelodau o gymunedau lleol sy’n dod ynghyd i ddiogelu eu ffrindiau a’u cymdogion.

Eleni, am y tro cyntaf, rydym ni yn y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol wedi ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru i noddi categori newydd ar gyfer y Gwobrau Gofal Cymdeithasol. Bydd y wobr Dulliau effeithiol o ddiogelu yn agored i dimau, grwpiau a sefydliadau neu fudiadau:

  • sy’n gallu dangos sut y mae lleisiau pobl sydd wedi dioddef camdriniaeth wedi helpu i wella arferion
  • sy’n gallu dangos sut y mae dysgu a datblygu amlbroffesiwn wedi gwella sgiliau diogelu
  • sy’n gallu rhoi enghreifftiau o wasanaethau newydd, sydd wedi atal neu leihau niwed neu wedi rhoi cymorth gwell i unigolion sydd wedi dioddef niwed.

Mae’r Gwobrau Gofal Cymdeithasol yn cael eu cyflwyno bob dwy flynedd ac mae ganddynt broffil cenedlaethol uchel yng Nghymru. Maent yn gyfle gwych i gydnabod yr ymroddiad, yr arbenigedd a’r arloesi a welir ledled Cymru. Caiff y seremoni nesaf ei chynnal ar 13 Medi 2018 a bydd gwybodaeth ar gael yn fuan oddi wrth Gofal Cymdeithasol Cymru ynghylch sut i ymgeisio.

Felly, ewch ati i feddwl am enghreifftiau gwych o arferion diogelu yr ydych am eu rhannu â gweddill Cymru, a chadwch olwg am ragor o wybodaeth yn fuan!