Penodi cadeirydd ac aelodau i’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol

Page Icon

Datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru

 

Penodi cadeirydd ac aelodau i’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol

gan Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Nododd Rhan 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fframwaith cyfreithiol newydd i gryfhau trefniadau diogelu fel y gellir amddiffyn pobl sydd mewn perygl yn fwy effeithiol. Mae’n sicrhau bod asiantaethau diogelu lleol yn cael eu cefnogi gan arweinyddiaeth fwy cadarn a fframwaith cryfach, mwy effeithiol ar gyfer cydweithredu amlasiantaethol.

Mae’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn gorff cynghori sy’n gweithio ochr yn ochr â’r byrddau diogelu oedolion a’r byrddau diogelu plant i sicrhau gwelliannau i bolisïau ac arferion diogelu yng Nghymru.

Yn dilyn proses benodiadau cyhoeddus agored, ac yn unol â’r Cod Llywodraethu Penodiadau Cyhoeddus, mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod cadeirydd ac aelodau wedi’u penodi i’r bwrdd cenedlaethol. Maent yn dod â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth o amryw o gefndiroedd, gan gynnwys profiad blaenorol ar y bwrdd cenedlaethol. Gyda’i gilydd, mae ganddynt y gallu i fod yn eiriolwyr cadarn ar gyfer diogelu plant ac oedolion.

Cyfnod y penodiadau hyn fydd 1 Mai 2019 hyd 1 Mai 2022. Telir £256 y dydd i’r cadeirydd yn seiliedig ar leiafswm ymrwymiad amser o 24 diwrnod y flwyddyn, a thelir £198 y dydd i’r aelodau yn seiliedig ar leiafswm ymrwymiad amser o 12 diwrnod y flwyddyn.

Rwy’n ddiolchgar am waith aelodau blaenorol y bwrdd ac rwy’n siŵr y bydd y bwrdd cenedlaethol yn parhau i wneud cyfraniad gwirioneddol i sicrhau ein bod yn gwneud popeth y gallwn yng Nghymru i atal plant ac oedolion Cymru rhag dioddef camdriniaeth ac esgeulustod.

 

Cadeirydd

 

Jane Randall

Mae Jane yn ymuno â’r Bwrdd Cenedlaethol o gefndir fel arweinydd clinigol profiadol iawn mewn diogelu amlddisgyblaethol ac iechyd, ac amddiffyn y cyhoedd fel cyn Bennaeth Diogelu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Yn gyfathrebwr medrus ac effeithiol, gall gyfrannu cyngor a gwybodaeth arbenigol a gwneud penderfyniadau ar faterion cymhleth.

 

Aelodau 

 

Dr Jo Aubrey

Mae Jo wedi bod yn academydd, yn ymgynghorydd ac yn uwch reolwr, ac mae ganddi brofiad o arwain, rheoli a hyfforddi gan weithio gyda phlant a theuluoedd ar lefel lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r profiad hwn wedi cynnwys cynghori ar ystod o faterion yn ymwneud â datblygu gwasanaethau plant – gan gynnwys strategaethau a pholisïau ar gyfer amddiffyn a diogelu.

 

Tessa Hodgson

Mae Tessa yn gyfathrebwr hyderus gydag ystod eang o sgiliau a phrofiad o herio a chraffu mewn modd adeiladol. Yn Gynghorydd Sir ac Aelod Cabinet dros Ddiogelu a Gwasanaethau Cymdeithasol, gall wneud cyfraniad helaeth i ddatblygiad strategol y Bwrdd Cenedlaethol.

 

Karen Minton

Mae Karen wedi chwarae rhan bwysig yn y Trydydd Sector yng Nghymru yn y maes diogelu. Daw â phrofiad helaeth fel aelod o’r bwrdd diogelu ac fel awdur nifer o adroddiadau ac adolygiadau sy’n adlewyrchu ar ymarfer diogelu.

 

Jan Pickles

Mae Jan yn weithiwr cymdeithasol profiadol ac mae wedi gweithio yn y Gwasanaeth Prawf, yr heddlu, y llywodraeth a’r trydydd sector. Arweiniodd Jan y gwaith o ddatblygu’r gynhadledd amlasiantaeth asesu risg (MARAC) gan leihau’r risg i oedolion a phlant sy’n profi trais a chamdriniaeth domestig a rhywiol. Mae Jan yn aelod o Ymddiriedolaeth y GIG Felindre, Bwrdd Cynghori Diogelu Cyd-destunol a Bwrdd Cynghori’r Ganolfan Arbenigedd Cam-drin Plant yn Rhywiol. Mae gan Jan fusnes cynghori ar ddiogelu sy’n gweithio i awdurdodau lleol, elusennau a’r sector preifat, a gweithiodd yn fwyaf diweddar fel rhan o’r timau adolygu ar gamdriniaeth rywiol hanesyddol mewn pêl-droed ac yn yr eglwys.

 

Tony Young

Yn gyn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, daw Tony â gwybodaeth a phrofiad cynhwysfawr i’r Bwrdd o ddefnyddio dull amlasiantaethol ar gyfer materion diogelu, yn ogystal â phrofiad helaeth o arwain.

 

 

Gwneir yr holl benodiadau ar sail teilyngdod, ac nid yw gweithgareddau gwleidyddol yn chwarae unrhyw ran yn y broses ddethol. Ond, yn unol â’r argymhellion Nolan gwreiddiol, mae angen cyhoeddi gweithgareddau gwleidyddol y rhai a benodwyd (os ydynt wedi’u datgan).

 

Jane Randall – dim gweithgareddau gwleidyddol wedi’u datgan; dim penodiadau cyhoeddus eraill.

 

Jo Aubrey – dim gweithgareddau gwleidyddol wedi’u datgan; dim penodiadau cyhoeddus eraill.

 

Tessa Hodgson – Cynghorydd, Cyngor Sir Penfro; dim penodiadau cyhoeddus eraill.

 

Karen Minton – dim gweithgareddau gwleidyddol wedi’u datgan; dim penodiadau cyhoeddus eraill.

 

Jan Pickles – wedi canfasio ar ran y blaid lafur; aelod annibynnol, Ymddiriedolaeth GIG Felindre, gyda thâl o £9,360 y flwyddyn)

 

Tony Young – wedi bod â swydd leol a chanfasio ar ran y blaid lafur; dim penodiadau cyhoeddus eraill.