Prosiect Gwirionedd yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol

Page Icon

Mae’r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol yn cynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth ynghylch ei Brosiect Gwirionedd. Mae’n ymgyrch cenedlaethol i Gymru a Lloegr, ac mae’n bosibl y byddwch eisoes wedi gweld byrddau poster a hysbysebion Prosiect Gwirionedd yn y wasg, mewn cylchgronau, ar gyfryngau cymdeithasol ac ar y radio. Mae’r Prosiect Gwirionedd wedi’i sefydlu er mwyn i’r sawl sydd wedi dioddef a goroesi camdriniaeth rywiol pan oeddent yn blant allu rhannu eu profiad mewn amgylchedd cyfrinachol a chefnogol. Bydd y prosiect yn helpu’r ymchwiliad i ymchwilio i sefydliadau a chyrff sydd wedi methu ag amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin yn rhywiol.

Yn ystod y cyfnod pan oeddwn yn Gomisiynydd Plant Cymru, cefais lawer o sgyrsiau â phobl a oedd wedi cael eu cam-drin rywbryd yn ystod eu bywyd. Dyw hi byth yn hawdd sôn am bethau o’r fath, a phan fydd rhywun yn dechrau sôn am ei brofiad ei hun gall fod yn bwerus iawn. Ni chymerais i sgyrsiau o’r fath yn ganiataol o gwbl, a cheisiais wneud fy ngorau glas i wrando, deall a gweithredu ar sail y wybodaeth a rannwyd.

Mae pob un ohonom wedi gweld – yn yr achosion amlwg ym maes chwaraeon, mewn cartrefi gofal ac mewn rhai sefydliadau ffydd – bod y sawl sydd wedi sôn am eu profiad wedi ein helpu i adnabod sut y mae camdriniaeth yn digwydd a beth y gallwn i gyd ei wneud i sicrhau bod ein sefydliadau mor ddiogel ag sy’n bosibl. Hwyrach mai’r Prosiect Gwirionedd fydd yr unig gyfle a gaiff unigolyn i sôn am ei brofiad ei hun. Dyna pam y mae Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru yn cynorthwyo’r Ymchwiliad Annibynnol i godi ymwybyddiaeth ynghylch y prosiect.

Ar ein gwefan ceir dolen gyswllt â gwefan y Prosiect Gwirionedd https://www.truthproject.org.uk/i-will- be-heard ac mae’r pecyn Cymorth ynghylch cyfryngau cymdeithasol ar gyfer sefydliadau ar gael yma hefyd.

Helpwch i rannu gwybodaeth am y Prosiect Gwirionedd trwy rannu a defnyddio’r deunyddiau hyn. Mae’n bwysig ein bod yn gwneud cymaint ag sy’n bosibl i godi ymwybyddiaeth, er mwyn sicrhau bod unrhyw un a allai fod yn dymuno sôn am ei brofiad yn gallu cael gafael ar y wybodaeth y mae arno ei hangen.

Keith Towler
Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru